Manylion y penderfyniad

P-04-447 Campaign for Statue of Henry VII in Pembroke

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: I'w ystyried

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ariannu cerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro, y dref lle cafodd ei eni a’r man lle dechreuodd llinach y Tuduriaid . Nid oes cerflun o’r dyn hwn na chofeb iddo yn y dref. Gallai cerflun wella economi’r dref fel lle hanfodol i bobl sydd â diddordeb yn y Tuduriaid ymweld ag ef.

 

Prif ddeisebydd: Nathen Amin

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

 

Nifer y llofnodion:  144

 

Penderfyniadau:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei farn ar y ddeiseb;

Holi am safbwyntiau ehangach ar y ddeiseb drwy ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro, Cymdeithas Twristiaeth Sir Benfro, Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru a chymdeithasau hanesyddol perthnasol.

Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2013

Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: