Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Memorandum on Crime and Courts Bill in relation to amendments to the Environmental Protection Act 1990
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd
Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Cyflwynodd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Atodol ar gyfer y Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd (Memorandwm rhif 2)
(PDF, 368MB) ar 24 Medi 2014.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.47
NDM5088 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Trosedd
a Llysoedd sy’n diwygio adran 33(B) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 sy’n
ymwneud â maint y digollediad y caiff llysoedd ynadon ei orchymyn mewn
cysylltiad â cholled neu ddifrod a geir mewn perthynas â chostau glanhau
gwastraff a ollyngir, a drinnir neu a waredir yn anghyfreithlon, i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6
Tachwedd 2012 yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad