Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5129
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn dathlu
bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi
mewn nifer o ardaloedd nad ydynt
yn rhai traddodiadol;
2. Yn gresynu’n
arw wrth y gostyngiad yn nifer
a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;
3. Yn nodi
bod angen gweithredu ar unwaith i wneud
iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl
ddwyieithog;
4. Yn gresynu
wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb
S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod
yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer
yr iaith; a
5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r canlynol, er mwyn
cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu
a nodir yn ‘Iaith fyw: iaith
byw’:
a) hybu a chefnogi mentergarwch gan siaradwyr Cymraeg,
yn enwedig yn yr ardaloedd
hynny lle mae’r iaith yn
dal i gael ei siarad yn eang;
b) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi cymunedau a diwydiannau creadigol sy’n siarad Cymraeg;
c) rhoi’r safonau Cymraeg arfaethedig ar sail gyfreithiol;
d) hybu twf a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle,
gan ddechrau gydag awdurdodau cyhoeddus a gweithio gyda’r sector preifat;
e) sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer addysgu’r
Gymraeg fel ail iaith i oedolion ac i blant;
f) cynllunio a hybu’r achos dros
ddatganoli darlledu a datganoli swyddi darlledu yn fewnol;
g) diwygio’r system gynllunio er mwyn
i awdurdodau lleol allu osod cap ar
nifer yr ail gartrefi mewn lleoliadau
penodol; a
h) ymchwilio i sut y gall polisïau caffael gefnogi’r gweithlu a’r gymuned
leol i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu defnyddio polisïau o’r fath.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodyn
Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd er i'r ymgynghoriad ar y nodyn technegol
newydd ddod i ben ym mis Mehefin 2011.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â
hynny:
Yn llongyfarch Comisiynydd y Gymraeg ar yr ymgynghoriad
trylwyr a chynhwysfawr a gynhaliodd parthed y safonau Cymraeg arfaethedig ac yn
cefnogi'r safonau fel y'u cyhoeddwyd ganddi ym mis Tachwedd 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei
le:
Yn cydnabod pwysigrwydd S4C modern ac effeithlon
ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r darlledwr ar adeg
pan fo penderfyniadau gwariant anodd yn gorfod cael
eu gwneud.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddangos y camau gweithredu y mae’n eu cymryd
er mwyn cefnogi’r
chwe ardal strategol ar gyfer
gweithredu a nodir yn “Iaith Fyw:
Iaith Byw” ac yn benodol i:
(a)
hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg Cymry Cymraeg;
(b)
annog twf y Gymraeg a’r defnydd
ohoni yn y gweithle a hyrwyddo’r defnydd o Nod Siarter Cymraeg i gydnabod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel;
(c)
hyrwyddo manteision economaidd sgiliau dwyieithog mewn ardaloedd economaidd difreintiedig;
(d)
ymchwilio i sut gall polisïau caffael gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg;
(e)
ystyried rhinweddau gosod y safonau Cymraeg arfaethedig, ar ôl eu
cytuno, ar sail statudol;
(f)
buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig
band eang, i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg
yn y diwydiannau creadigol ac mewn bywyd bod dydd mewn cymunedau;
(g)
archwilio pam nad oes rhagor o bobl
ifanc yn ystyried eu bod yn gallu siarad
Cymraeg ar ôl degawd o ddysgu
Cymraeg yn orfodol mewn ysgolion,
ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dysgu Cymraeg
fel ail iaith;
(h)
adrodd ar lefel y pwys a roddir gan bob awdurdod lleol ar dwf a chynaliadwyedd
y defnydd o'r Gymraeg wrth wneud
penderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd;
(i)
archwilio pa feysydd o’r diwydiant darlledu
yng Nghymru a allai fod yn
atebol i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU ac yna dadlau’r achos
dros rannu cyfrifoldeb
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5
- Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei
le:
Yn nodi gweledigaeth
Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu,
ynghyd â’r chwe maes gweithredu
a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith
Byw, sef:
a) annog
a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn
teuluoedd;
b) cynyddu’r
ddarpariaeth o weithgareddau
Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;
c) cryfhau
safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;
d) cynyddu
cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;
e) gwella
gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion;
ac
f) cryfhau’r
seilwaith ar gyfer yr iaith,
gan gynnwys technoleg ddigidol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
14 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Derbyniwyd gwelliant 5, felly cafodd gwelliant 6 ei
ddad-ddethol.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Weinidogion Cymru i weithredu ar eu haddewid
i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau
Llywodraeth Cymru drwy:
(a)
mynnu bod corff annibynnol yn cynnal
adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth ac i asesu’r berthynas rhwng y gwariant hwnnw a’r Gymraeg - sef
mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant - ac, o hyn ymlaen, cynnal
asesiad effaith iaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru bob blwyddyn;
(b)
cynnwys lles y Gymraeg fel rhan
o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil Datblygu Cynaliadwy
arfaethedig; ac
(c)
sefydlu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg
a fydd yn cynnwys monitro’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau
cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5129
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn dathlu
bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi
mewn nifer o ardaloedd nad ydynt
yn rhai traddodiadol;
2. Yn gresynu’n
arw wrth y gostyngiad yn nifer
a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;
3. Yn nodi
bod angen gweithredu ar unwaith i wneud
iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl
ddwyieithog;
4. Yn gresynu
wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb
S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod
yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer
yr iaith; a
5. Yn
nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu,
ynghyd â’r chwe maes gweithredu
a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith
Byw, sef:
a) annog
a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn
teuluoedd;
b) cynyddu’r
ddarpariaeth o weithgareddau
Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;
c) cryfhau
safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;
d) cynyddu
cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;
e) gwella
gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion;
ac
f) cryfhau’r
seilwaith ar gyfer yr iaith,
gan gynnwys technoleg ddigidol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
17 |
9 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 09/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad