Manylion y penderfyniad

Debate on the Annual Budget

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol.

Gweithiodd hefyd gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol wedi cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliwyd y pwyllgor sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r agweddau ar y gyllideb daeth o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5109 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 27 Tachwedd 2012.

Troednodyn:

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

1. Y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

2. Yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

3. Cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

4. Cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

5. Cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i’r Aelodau:

·         Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Flynyddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

7

18

50

Derbyniwyd y cynnig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 05/12/2012

Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad