Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5099 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd mawr cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd rhanbarthol; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno
sylwadau i Lywodraeth y DU
i beidio â hybu na chytuno
ar unrhyw ostyngiad yn y gyllideb Ewropeaidd a fydd yn cael
effaith andwyol ar Gymru a’n
gallu i gryfhau economi Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 22/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad