Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5091 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd;
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â rheoleiddio’r farchnad ynni i ddiogelu’r rheini sy’n byw mewn tlodi tanwydd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
39 |
46 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd:
a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth;
b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac
c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
10 |
7 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu ‘lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl’ a rhoi yn ei le ‘adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu’n arw fod nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 28% i 33.5% rhwng 2008 a 2011.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
24 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
7 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
1 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5091 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd;
2. Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd:
a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth;
b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac
c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.
5. Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.
6. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen.
7. Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
10 |
46 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad