Manylion y penderfyniad

Motion to approve the Assembly Commission's Budget 2013/14

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Comisiwn y Senedd

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Gosododd Comisiwn y Cynulliad eu cyllideb ddrafft ar gyfer 2013-14 (PDF, 760KB) o flaen y Cynulliad ym Medi 2012. Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y gyllideb ddrafft a cyhoeddodd adroddiad arno (PDF, 384KB) yn Hydref 2011. Pasiwyd cyllideb derfynol (PDF, 775KB) Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14 gan y Cynulliad cyfan yn Nhachwedd 2012.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

 

NDM5090 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

 

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14, fel y’i pennir yn Nhabl 1 “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2012 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2012

Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad