Manylion y penderfyniad
Debate on the Finance Committee's report ‘Borrowing Powers and Innovative Approaches to Capital Funding'
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid agweddau ar gyllido
ac ariannu datganoli yng Nghymru gyda golwg ar lywio Rhan 1 o adroddiad Comisiwn
Silk. Yn benodol ymchwiliodd y Pwyllgor:
- i ba raddau y gellid rhoi pwerau benthyca i
Lywodraeth Cymru, gan edrych ar wersi a ddysgwyd o brofiad awdurdodau
lleol yn sgîl eu pwerau benthyca cyfredol; ac
- ystyried dulliau arloesol y gellid eu defnyddio gan
Lywodraeth Cymru i ysgogi arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, heb
effeithio’n negyddol ar floc Cymru, gan gynnwys i ba raddau y byddai modd
defnyddio pwerau benthyca cyfredol awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.
Yn ystod yr ymchwiliad hwn ystyriodd y Pwyllgor:
- y camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol i benderfynu
ar eu terfynau benthyca darbodus ac i gadw golwg ar y terfynau hynny, a
sut y gwneir hyn;
- lefelau amrywiol benthyca darbodus a ddefnyddir gan
awdurdodau lleol yng Nghymru ac unrhyw resymau dros y gwahaniaethau hynny;
- trosolwg o natur y prosiectau lle y defnyddiwyd
benthyca heb gefnogaeth, ac a oes rhesymau penodol dros hyn;
- gwersi a ddysgwyd gan awdurdodau lleol am fenthyca
darbodus gan gynnwys effaith ad-daliadau yn y tymor hir;
- sut y gellid defnyddio benthyca awdurdodau lleol i
roi hwb i faint y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer seilwaith Cymru;
- unrhyw gamau eraill a ystyrir gan awdurdodau lleol i
ariannu gwariant cyfalaf;
- dulliau eraill o ysgogi arian cyfalaf a ystyrir gan
Lywodraeth Cymru wrth baratoi ei Chynllun Seilwaith gan gynnwys y
posibilrwydd o roi hwb i fenthyca gan awdurdodau lleol a sefydliadau
eraill;
- ymchwilio i ddulliau cyfalaf arloesol a gynigwyd mewn
rhannau eraill o’r DU, sut y cawsant eu datblygu a’u defnyddio, a phan
fo’n bosibl, sut y maent wedi perfformio.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.06
NDM5073 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 25/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 24/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad