Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:33
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5059
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar.
2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau;
b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; a
c) sicrhau bod model di-elw yn cael
ei greu ar
gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
43 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd
Gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
39 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu 3c) a rhoi yn ei le “archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
8 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3):
Yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymroddiad Llywodraeth y DU i Gymru drwy ei hymrwymiad i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y De.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd
HS2 newydd yn hanfodol ar gyfer
gwella gwasanaethau i ranbarth gogledd Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i ogledd Cymru yn
cael eu hatgyfnerthu
yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 11.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5059
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar.
2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau;
b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; ac
c) archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl
d) yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6
4. Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith.
7. Yn credu
bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd HS2 newydd yn hanfodol
ar gyfer gwella gwasanaethau i ranbarth gogledd Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i ogledd Cymru yn
cael eu hatgyfnerthu
yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
5 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 11/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 10/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad