Manylion y penderfyniad
Debate on the First Supplementary Budget 2012-13
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18:37
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5026 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r
Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2012.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a
Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf
Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc
Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru
gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol
Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa
yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b)
o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai
blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
22 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y
cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 17/07/2012
Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad