Manylion y penderfyniad
Debate on the Children and Young People Committee's Inquiry into the Implementation of the Learning & Skills (Wales) Measure 2009
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae’r
Pwyllgor Plant a Phobl ifanc wedi cynnal ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Cylch
gorchwyl yr ymchwiliad oedd:
- yr effaith mae gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru)
2009 wedi ei chael ar bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed;
- a yw gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009
wedi cael effaith ar nifer y bobl ifanc sy’n dewis aros mewn addysg neu
hyfforddiant ar ôl i addysg orfodol ddod i ben pan fyddant yn troi’n 16 oed;
- a oes gan bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed ddewis
ehangach o gyrsiau academaidd a galwedigaethol o ganlyniad i Fesur Dysgu a
Sgiliau (Cymru) 2009;
- pa broblemau ymarferol yr ymdriniwyd â hwy er mwyn
gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:59.
NDM5021 Christine
Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 20 Mehefin 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 28/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 27/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad