Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:26.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5003 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r syniadau ar gyfer dod ag adnoddau ynghyd a chydweithio i gryfhau economïau lleol fel y nodir yn ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd.’
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy.
Mae‘r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
35 |
43 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
17 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn cydnabod sefyllfa economaidd wael Cymoedd De Cymru.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi datblygu ‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
8 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5003 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy.
Mae‘r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2
2. Yn cefnogi datblygu ‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru.
3. Yn gresynu nad yw ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
0 |
42 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 14/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad