Manylion y penderfyniad
Debate on the Environment & Sustainability Committee’s report on the Single Environment Body
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Ar 29 Tachwedd 2011, yn dilyn canlyniad yr achos busnes, cyhoeddodd John
Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, fod Llywodraeth
Cymru wedi penderfynu sefydlu un corff amgylcheddol newydd i Gymru. Bydd
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth
Cymru yn cael eu huno er mwyn creu’r corff newydd. Nododd y Llywodraeth mai
amcanion y corff fydd cyflanwi’r canlyniadau sydd wedi’u nodi yn Fframwaith yr
Amgylchedd Naturiol, sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Penderfynodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd cynnal ymchwiliad byr a
chryno er mwyn asesu a fydd yr achos busnes a lywiodd penderfyniad Llywodraeth
Cymru i greu corff newydd yn llwyddo i gyflawni canlyniadau’r amgylchedd
naturiol mae’r Llywodraeth am eu diogelu.
Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
- asesu a yw’r achos busnes a
gyflwynwyd er mwyn creu
un corff amgylcheddol yn rhoi digon
o ystyriaeth i’r canlyniadau eang sydd wedi’u nodi yn Fframwaith
yr Amgylchedd Naturiol;
- asesu a yw’r achos busnes yn adlewyrchu’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig ag uno’r cyrff
statudol presennol yn ddigonol;
- dadansoddi a yw’r achos
busnes yn rhoi digon o ystyriaeth i’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â
chreu un corff amgylcheddol, gan gynnwys:
- y risgiau ariannol
ac economaidd;
- y risgiau cyfreithiol
a deddfwriaethol;
- y risgiau perfformiad;
- y risgiau atebolrwydd
a thryloywder, a’r
- risgiau i enw
da’r sefydliadau gwreiddiol;
- asesu a yw’r achos
busnes yn rhoi digon o sylw i farn rhanddeiliaid allweddol a effeithir
arnynt gan y cynlluniau i greu
un corff amgylcheddol.
Mae’r materion sydd wedi hystyried gan y Pwyllgor fel rhan o’r cylch
gorchwyl hwn yn cynnwys:
- y canlyniadau a’r amcanion mae Llywodraeth
Cymru wedi’u nodi yn ei hystyriaethau ar gyfer fframwaith yr amgylchedd
naturiol ac a yw’r achos
busnes yn rhoi digon o sylw o’r math o gorff a fyddai orau ar gyfer
cyflawni’r canlyniadau
hyn;
- y costau a’r buddion sydd wedi’u nodi yn
yr achos busnes ar gyfer y gwahanol
opsiynau ac a fyddai’r
rhain yn ddigon cynhwysfawr a chadarn neu a ddylid rhoi ystyriaeth i faterion eraill;
- a yw’r risgiau a nodwyd yn yr achos busnes
yn ddigon eang a chynhwysfawr neu a oes risgiau ychwanegol sydd heb eu
canfod;
- barn rhanddeiliaid o’r achos busnes ac a ymgynghorwyd yn ddigonol â hwy wrth ei ddatblygu.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14:50.
NDM5008 Dafydd
Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad ar yr achos busnes dros un corff amgylcheddol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 1 Mehefin 2012
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 14/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad