Manylion y penderfyniad
Debate on Together for Health – Six Month Progress Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd”
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
“ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a
b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i
ad-drefnu ysbytai.
Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd gweddill
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod agenda Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn cynnwys
cynlluniau i leihau nifer y safleoedd ysbytai sy’n darparu gwasanaethau
damweiniau ac achosion brys 24/7 o dan law meddyg ymgynghorol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
23 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn erbyn israddio ysbytai lleol a
gwasanaethau iechyd ar draws Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
24 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd” ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a
b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i
ad-drefnu ysbytai.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau
arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at
Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn
lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
10 |
45 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 15/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad