Manylion y penderfyniad
Y wybodaeth ddiweddaraf o ran Llywodraethu a Sicrwydd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
Diben:
Adroddiadau Archwilio
Mewnol
Mae Pwyllgor
Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd ystyried
yr argymhellion a wneir gan Bennaeth Archwilio Mewnol, ymatebion y Rheolwyr a
gwaith gweithredu'r argymhellion hynny.
Penderfyniadau:
Eitem lafar
3.1
Rhoddodd Gareth Watts
y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar o ran cynnydd yn erbyn gwaith archwilio a oedd
yn weddill. Roedd gwaith maes ar gyfer archwilio treuliau'r Aelodau
wedi'i gwblhau a'i ddefnyddio gan Archwilio Cymru fel rhan o'i arolwg o
gyfrifon y Comisiwn. Byddai'n dosbarthu adroddiad i'r Pwyllgor ar ôl iddo gael
ei gwblhau. Byddai hefyd yn gweithio ar adolygiad ehangach o reoli asedau yn
ogystal ag archwiliad i roi sicrwydd sy'n ofynnol gan y Prif Weithredwr fel
Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â Chronfa Gyfunol Cymru. Roedd hefyd wedi
cytuno â'r Cadeirydd y byddai'n cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu
argymhellion archwilio i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.
3.2
Gwahoddodd y Cadeirydd
Gareth Watts i amlinellu ei sicrwydd mewn cysylltiad â'r Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon. Cadarnhaodd y lefel gymedrol
o sicrwydd ar lywodraethu, rheoli risg ac archwilio mewnol a ddarparwyd yn ei
Adroddiad Blynyddol a'i Farn ym mis Ebrill. Cadarnhaodd ei fod yn fodlon o
safbwynt archwilio mewnol y gellid llofnodi'r cyfrifon.
Dyddiad cyhoeddi: 30/07/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd