Manylion y penderfyniad
Diweddariad ar y Fframwaith Rheoli Polisi
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Llywodraethu Comisiwn y
Cynulliad
Mae Pwyllgor
Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad yn ystyried y prosesau strategol ar gyfer
risg, rheolaeth a llywodraethu.
Penderfyniadau:
ACARAC (05-17) Papur 10
- Fframwaith Rheoli Polisi
7.1
Cyflwynodd
Gareth y papur hwn oedd yn gofyn i’r Pwyllgor nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud
a’r camau arfaethedig nesaf. Pan gwblheir y gwaith, byddai pob un o’r polisïau’n
cael eu brandio a byddai ganddynt ddyddiadau adolygu pendant, a ystyrir yn
hanfodol o ran llywodraethu da.
7.2
Er
bod y Pwyllgor yn cwestiynu amseriad y gwaith hwn, sicrhaodd Gareth yr aelodau
fod y prosiect hwn wedi’i nodi yn 2014 ac nid oedd yn dechrau o’r dechrau.
Roedd yr effaith ar adnoddau yn fach ac roedd aelod o’r tîm Llywodraethu a
Sicrwydd yn rheoli hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 08/03/2018
Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig