Manylion y penderfyniad
Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
NDM6217 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud
mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o
gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am
Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am
Gydraddoldeb 2016, a
2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i
wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.
Dogfen Ategol
Adroddiad
Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am
Gydraddoldeb 2016
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
17.10
NDM6217 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth
â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng
Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am
Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am
Gydraddoldeb 2016, a
2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud
Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a
wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn
partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant
personol.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau
gweithredu effeithiol ar waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng
Nghymru, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob
adroddiad yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
28 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6217 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cynnydd sydd
wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i
hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol
am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am
Gydraddoldeb 2016, a
2. Yn ailddatgan ymrwymiad y
Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r
cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol
weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu
canlyniadau llesiant personol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2017
Dyddiad y penderfyniad: 31/01/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 31/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd