Manylion y penderfyniad
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli
Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn 2011 ac mae pedwar Cynllun Rheoli
Traethlin yn rhoi gwell cipolwg i beryglon llifogydd ac erydu arfordirol gyda
dulliau a awgrymir i reoli’r peryglon.
Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol ar 21 Gorffennaf
2016 yn ystyried y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid ar
reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Ystyriodd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a chynhaliodd ymchwiliad byr
ar ddiwedd tymor yr hydref 2016.
Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi’r adroddiad hwn ar ôl yr etholiadau
Llywodraeth Leol ar 4 Mai 2017. Gan fod llawer o’r materion yn berthnasol i
Awdurdodau Lleol, roeddem yn awyddus i roi cyfle llawn i’r Awdurdodau newydd
ystyried ein hargymhellion. Yn dilyn y cyhoeddiad ar 18 Ebrill 2017 y byddai
Etholiad Cyffredinol y DU yn cael ei gynnal ar 8 Mehefin 2017, cytunodd y
Pwyllgor i ohirio’r dyddiad cyhoeddi tan ar ôl yr etholiad hwn.
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda
a Cofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru |
Darllen
trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1 (PDF 240KB) |
||
2. Llywodraeth
Cymru |
Darllen
trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2 (PDF 236KB) |
Penderfyniadau:
5.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru
ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.
5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder
ynghylch nifer o faterion.
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2016
Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/09/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol: