Manylion y penderfyniad
Dadl: Ail enwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
NDM6048 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn cytuno:
(a) Y dylid newid ei enw
i "Senedd Cymru" ar y cyfle cyntaf; ac
(b) Y dylai gael ei
adnabod yn answyddogol gan yr enw hwnnw hyd nes y gall enw o'r fath gael ei
ffurfioli.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 18.05
Tynnwyd gwelliannau 1 a 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog
12.27 ar ddiwedd y ddadl.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu
ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.
2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i
ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 06/07/2016
Dyddiad y penderfyniad: 05/07/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd