Manylion y penderfyniad

Dadl: Cynllun Cyflawni “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl”

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

NDM6054 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.

Dogfen Ategol

'Law Yn Llaw at Iechyd Meddwl' Cynllun Cyflawni: 2016-19

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 17.06

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6054 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na chlustnodi. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

6

8

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  1. Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.

 

  1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na chlustnodi. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

1

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/07/2016

Dyddiad y penderfyniad: 05/07/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd