Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5905 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i
ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Deddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth
nesaf Cymru i gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 10/12/2015
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad