Manylion y penderfyniad
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016/17
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Comisiwn y Senedd, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Gosododd Comisiwn
y Cynulliad eu cyllideb
ddrafft ar gyfer 2016-17 (PDF, 4MB) o flaen y Cynulliad ym Medi 2015.
Ystyriodd y Pwyllgor
Cyllid y gyllideb ddrafft a cyhoeddodd
adroddiad arno (PDF, 393KB) yn Hydref 2015. Ymatebodd
Comisiwn y Cynulliad i adroddiad y pwyllgor (PDF, 448) yn Nhachwedd 2015. Pasiwyd
cyllideb
derfynol (PDF, 4MB) Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17 gan y Cynulliad
cyfan yn Nhachwedd 2015.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Gohiriwyd y bleidlais
ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5868 David Melding (Canol
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer
2016-17, fel y nodir yn nhabl 1, 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru ar gyfer 2016-17', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 4 Tachwedd 2015 ac
sydd i'w hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog
20.26(ii).
Cynhaliwyd pleidlais
ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
4 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 12/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad