Manylion y penderfyniad

Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Fel rhan o ffyrdd newydd o weithio y cytunwyd arnynt ar ddechrau 2014, cytunodd y Pwyllgor i lunio adroddiad blynyddol yn manylu ar waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am y flwyddyn, a gafodd ei gyflwyno i’w drafod gan y Cynulliad cyfan. Bwriad yr adroddiad hwn oedd codi proffil gwaith y Pwyllgor ac i gynorthwyo ymhellach wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

NDM5800 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfer 2014-15, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 02/07/2015

Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad