Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5759
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd
pennaf Cymru;
2. Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail
â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob
blwyddyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid
cyllido Cymru ar yr un sail â'r Alban.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod
canfyddiadau Comisiwn Holtham fod fformiwla Barnett yn tanwario ar Gymru o ryw
£300 miliwn y flwyddyn;
2. Yn credu y
dylai Cymru gael ei hariannu'n deg;
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) comisiynu
diweddariad o ddadansoddiad Comisiwn Holtham;
b) sefydlu llawr
Barnett ar unwaith; ac
c) cynyddu'r grant
bloc i lefel teg i sicrhau cyllid teg i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
44 |
47 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2 a
3 ac yn eu lle rhoi:
2. Yn nodi bod
astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei
chyllido'n unol â'r angen.
3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu
terfyn ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
19 |
47 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu
cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a'r
cynlluniau ar gyfer cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd Gwelliant 4.
Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5759
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd
pennaf Cymru;
2. Yn nodi bod
astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei
chyllido'n unol â'r angen.
3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn
ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 01/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 13/05/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad