Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5678 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y
mae'r polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain
at:
a) economi Cymru yn colli dros
£1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol;
b) cynnydd yn nibyniaeth pobl
ar fanciau bwyd;
c) toriadau i wariant
llywodraeth leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau
yn ôl;
d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth
rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a
e) parhad mewn anghydbwysedd
economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn
cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig.
2. Yn galw am:
a) rhoi terfyn ar economeg o
lymder;
b) ail-gydbwyso grym a
chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig;
c) mabwysiadu polisïau
economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy;
d) cynyddu'r isafswm cyflog i
gyflog byw;
e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r
wladwriaeth les;
f) cydraddoldeb ariannol rhwng
Cymru a'r Alban; a
g) datganoli ysgogiadau
cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen am reolaeth
economaidd ddarbodus gan lywodraethau ar bob lefel a'r angen i ddarparu
sicrwydd economaidd i bobl Cymru a'r DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
9 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi yr etifeddodd
Llywodraeth Glymblaid y DU y diffyg ariannol mwyaf erioed mewn cyfnod o
heddwch.
2. Yn croesawu, diolch i'r
Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU:
a) bod y diffyg yn y gyllideb
wedi cael ei haneru;
b) bod buddsoddiad net y sector
cyhoeddus yn uwch fel cyfran o CMC nag yr oedd rhwng 1997 a 2010;
c) bod 1.8 miliwn o swyddi
wedi cael eu creu;
d) bod treth incwm wedi cael
ei thorri £800 ar gyfer 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru sydd ar incwm isel a
chanolig drwy godi trothwy’r dreth incwm i £10,500, gan arbed 153,000 o bobl
rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl;
e) bod y Banc Buddsoddi Gwyrdd
cyntaf yn y byd wedi cael ei sefydlu;
f) bod cyflogwyr yn cael
£2,000 o arian yn ôl ar y dreth y maent yn ei thalu ar eu gweithwyr;
g) y dilëwyd cynlluniau i dalu
llai i weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dim ond am eu bod yn byw y tu
allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr;
h) bod y gyfradd gyflogaeth ar
y lefel uchaf erioed o £30.8 miliwn, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau
Gwladol; ac
i) bod tâl rheolaidd wedi
cynyddu 1.8 y cant a thâl yn y sector preifat wedi cynyddu 2.2 y cant, sy'n
cynrychioli cynnydd uwch na chwyddiant mewn cyflogau gweithwyr, yn ôl
ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
3. Yn credu:
a) na all rhaglen flaengar
gael ei darparu gan Lywodraeth sy'n fethdalwr;
b) na fyddai mynnu cyllid
ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan yn bosibl yng nghyd-destun Cymru
annibynnol; ac
c) y dylem gydbwyso'r gyllideb
erbyn 2018, torri trethi ar gyfer pobl sy'n ennill cyflogau isel a chanolig a
sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus digonol ar gael, gan greu cyfleoedd i bawb.
4. Yn galw am:
a) lleihad teg yn y diffyg
ariannol drwy sicrhau bod pobl sy'n ennill cyflogau uchel a'r bobl gyfoethocaf
yn talu eu rhan, gan gynnwys drwy gyflwyno treth plastai wedi'i fandio;
b) rheolau ariannol newydd i
gydbwyso'r gyllideb wrth ganiatáu ar gyfer buddsoddi cynhyrchiol;
c) toriad pellach o £400 yn y
dreth incwm ar gyfer pobl sydd ar gyflog isel a chanolig;
d) gweithredu cynigion Silk
Rhan 1 ar bwerau ariannol i Gymru yn llawn; a
d) cyllid teg i Gymru, drwy
gynyddu grant bloc Cymru i lefel deg dros gyfnod Senedd a mynd i'r afael â'r
anghydbwysedd drwy sefydlu llawr Barnett ar lefel sy'n adlewyrchu'r angen i
Gymru gael ei hariannu'n deg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
12 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1c) dileu 'toriadau
i wariant llywodraeth leol' a rhoi yn ei le 'y toriad digyffelyb o £1.5 biliwn
gan Lywodraeth y DU i Grant Bloc Llywodraeth Cymru';
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2f) a rhoi yn ei
le:
setliad ariannol teg ar frys i
Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o gydraddoldeb
ariannol â'r Alban a gweddill y DU;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
12 |
11 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5678 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y mae'r
polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain at:
a) economi Cymru yn colli dros
£1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol;
b) cynnydd yn nibyniaeth pobl
ar fanciau bwyd;
c) toriadau i wariant llywodraeth
leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau yn ôl;
d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth
rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a
e) parhad mewn anghydbwysedd
economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn
cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig.
2. Yn galw am:
a) rhoi terfyn ar economeg o
lymder;
b) ail-gydbwyso grym a
chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig;
c) mabwysiadu polisïau
economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy;
d) cynyddu'r isafswm cyflog i
gyflog byw;
e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r
wladwriaeth les;
f) setliad ariannol teg ar
frys i Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o
gydraddoldeb ariannol â'r Alban a gweddill y DU;
g) datganoli ysgogiadau
cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad