Manylion y penderfyniad
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2015-16
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb
Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol.
Gweithiodd hefyd
gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios
Gweinidogol penodol wedi cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliwyd y pwyllgor
sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn
archwilio i’r agweddau ar y gyllideb daeth o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac
wedyn yn adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Cynhaliodd y
pwyllgor ymgynghoriad ar
gynigion cyllideb ddrafft y llywodraeth rhwng Gorffennaf 2014 i Fedi 2014.
Isod ceir
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft, ynghyd â gohebiaeth
berthnasol i’w waith craffu.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.31
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5619 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-2016 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar
30 Medi 2014.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16 yn
diwallu anghenion pobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
42 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod:
a) y Gyllideb Ddrafft yn methu ag ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan
mewn perthynas â buddsoddi cyfalaf at y dyfodol;
b) y symiau a fuddsoddir mewn mesurau integreiddio ym maes iechyd a
gofal cymdeithasol wedi cael eu torri, ac y bydd hyn yn arwain at fwy o bwysau
ariannol ar y GIG yn y dyfodol;
c) dull gweithredu annoeth mewn
perthynas â buddsoddi mewn sgiliau wedi arwain at ostyngiad yn nifer y
prentisiaethau sydd ar gael, a gallai hyn arwain at ddirywiad pellach mewn
diweithdra ymhlith pobl ifanc.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
43 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5619 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-2016 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar
30 Medi 2014.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
5 |
21 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 18/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad