Manylion y penderfyniad
Ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i Ailgylchu
yng Nghymru.
Diben yr ymchwiliad hwn oedd i edrych yn fanwl ar
arferion a threfniadau ailgylchu gwastraff tai awdurdodau lleol drwy
Gymru. Edrychodd yr ymchwiliad ar yr
holl ddeunyddiau gwastraff, gan gynnwys gwastraff bwyd a gwastraff o’r ardd.
Cylch gorchwyl
- Ymchwilio i’r rhesymau dros yr amrywiadau mewn arferion ailgylchu
gwastraff tai awdurdodau lleol yng Nghymru, ac effeithiau’r amrywiadau
hyn.
- I ba raddau y mae arferion ailgylchu awdurdodau lleol yn gydnaws â
phatrwm casgliadau Cynllun Sector Gwastraff Trefol Llywodraeth Cymru, ac
edrych beth yw’r rhwystrau a’r hwyluswyr i ymlynu.
- Asesu a yw gwybodaeth ac arweiniad ar gael i ddeiliaid tai ynglŷn
â pham a sut y dylent fod yn ailgylchu, ac edrych ar beth yw’r rhwystrau
posibl, a beth yw’r hwyluswyr i wella cyfraddau ailgylchu.
- Ymchwilio i ymateb awdurdodau lleol i’r Trywydd Rheoliadau Gwastraff a
gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac effeithiau a goblygiadau posibl hwn ar
arferion ailgylchu ledled Cymru.
- Cael gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng arferion casglu deunydd
ailgylchu a chyfraddau ailgylchu.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y testun yma.
I gael darllen hanes yr ymchwiliad cliciwch ar y ddolen
isod i weld yr erthygl Storify:
https://storify.com/assemblywales/ymchwiliad-i-ailgylchu-yng-nghymru-ailgylchucymru
Penderfyniadau:
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Dyddiad cyhoeddi: 18/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 13/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/11/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: