Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5529 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”.
2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4
newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd.
3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl
troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng
nghysyniad y ‘Llwybr Glas’.
5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn
seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar
gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
1 |
16 |
26 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
15 |
26 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru
sy’n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar
gyfer cludo nwyddau a gwella llwybrau lleol strategol'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
11 |
26 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael
mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn ariannu gwelliannau i’r M4;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
10 |
26 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar ynghylch cael ffordd i
ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o amgylch Casnewydd, a rhoi’r
penderfyniad hwnnw ar waith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
0 |
25 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei lythyr
yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch
Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
0 |
26 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5529 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”.
2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4
newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd.
3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl
troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng
nghysyniad y ‘Llwybr Glas’ fel rhan o strategaeth
drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru sy’n cynnwys buddsoddiad
mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau a
gwella llwybrau lleol strategol.
5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn
seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar
gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
6. Yn croesawu’r buddsoddiad gan
Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn
ariannu gwelliannau i’r M4.
7. Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar
ynghylch cael ffordd i ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o
amgylch Casnewydd, a rhoi’r penderfyniad hwnnw ar waith.
8. Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei
lythyr yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch
Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
1 |
20 |
26 |
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 19/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad