Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5495 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith
ieuenctid yn 21.3% - y lefel uchaf o blith pedair gwlad y DU;
2. Yn gresynu bod diweithdra hirdymor ymhlith
pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith ers ffurfio'r Llywodraeth Cymru
bresennol;
3. Yn cydnabod gwerth pobl ifanc i economi
Cymru; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i wella
rhagolygon economaidd pobl ifanc.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
37 |
45 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, ar ôl 'Cymru’ rhoi ‘ac yn gresynu mai dim ond 60% o
raddedigion gradd gyntaf cyflogedig, llawn amser o Sefydliadau Addysg Uwch
Cymru a arhosodd yng Nghymru i weithio chwe mis ar ôl graddio.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Ni ddetholwyd gwelliant 2 a gyflwynwyd ar gyfer
y ddadl.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 4, dileu ‘gymryd camau ar unwaith’ a rhoi yn ei le ‘weithio ar y
cyd gyda Llywodraeth y DU’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
31 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gasglu gwell data er mwyn cyfrannu at
bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i allu cydweddu cyfleoedd hyfforddi a
graddedigion yng Nghymru yn well.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gan fod
y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 01/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 30/04/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad