Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.57
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5372 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
1. Yn nodi na fydd perfformiad
Cymru yn erbyn PISA a mesuriadau perfformiad addysgol cenedlaethol a
rhyngwladol eraill yn gwella digon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru oni
bai bod cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion o gefndir difreintiedig yn gwella'n sylweddol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
fuddsoddi mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, penaethiaid a staff
cymorth newydd a phresennol ar ymyriad cynnar i wella llythrennedd, rhifedd,
presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig.
3. Yn croesawu cytundeb cyllideb
Plaid Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i fwy na
dyblu'r cyllid a roddir fesul plentyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cryfhau'r canllawiau ar y
defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei
ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon i godi cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; a
b) cryfhau'r broses o fonitro’r
defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio
at y diben a fwriadwyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
18 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad