Manylion y penderfyniad
P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Prostadectomi
laparosgopig gyda chymorth robotig yw safon Aur y 21ain Ganrif. Rhaid i Gymru,
fel cenedl, fod ar flaen y gad o ran cynnig y safon hon. Rydym ni, y rhai a
lofnodwyd isod, wedi ein brawychu gan y ffaith na chynigir llawdriniaeth
robotig i ddynion yng Nghymru sydd â chanser y prostad, er ei bod yn cael ei
chynnig i BOB dyn yn Lloegr, gydag o leiaf 40 o leoliadau yn cynnig y driniaeth
hon, tra bod yn rhaid i ddynion yng Nghymru dalu miloedd o bunnoedd (rhwng
£13-15,000 fel arfer) i gael y driniaeth hon yng nghyfleusterau’r GIG yn
Lloegr. Yn amlwg, ni all nifer o ddynion yng Nghymru fforddio hyn. Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru ynghyd â
Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i ddatrys y sefyllfa gwbl annheg hon a’r diffyg
difrifol o ran adnoddau hanfodol yn y GIG yng Nghymru yn ddi-oed. Mae’n
hanfodol bod y dechnoleg hon, Safon Aur y 21ain Ganrif, yn cael ei chynnig i
ddynion yng Nghymru. Nid yw’n iawn bod technoleg o’r fath ar gael mewn mannau
eraill a bod yn rhaid i ddynion o Gymru dalu i gael budd ohoni mewn cyfleuster
y GIG yn Lloegr.
Prif ddeisebydd: Yr
athro Kevin Davies MBE
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Gorffennaf 2013
Nifer y llofnodion : 2090
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Penderfyniadau:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i;
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael ei farn am y ddeiseb;
· ysgfrifennu at bob Bwrdd Iechyd Lleol yn holi am wybodaeth ychwanegol ynghylch darparu gwasanaethau; a
· gwneud cais am bapur briffio gan y gwasanaeth ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 18/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: