Manylion y penderfyniad
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Powys Fadog
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Cyhoeddwyd
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu
hen Westy River Lodge, Llangollen ym mis
Mehefin 2012. Daeth yr adroddiad i’r casgliad y gwnaeth Llywodraeth Cymru
benderfyniadau gwallus i brynu hen Westy River Lodge yn 20017 am £1.6 miliwn a
llofnodi cytundeb prydles yn 2009 gyda chorff o’r enw Powys Fadog, ac nad oedd
y penderfyniadau hyn yn cynnig gwerth da am arian. Yng ngoleuni hyn, a’r
tebygolrwydd cynyddol na fyddai Powys Fadog yn gallu cyflawni amodau’r cytundeb
prydles, nododd yr adroddiad fod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2010 i
werthuso’r opsiynau ar gyfer gwaredu’r eiddo yn ddarbodus ac yn angenrheidiol.
Hefyd, canfu’r adroddiad y bu Llywodraeth Cymru yn araf o ran ymateb i bryderon
mewnol allanol ynghylch uniondeb a gwerth am arian ei benderfyniadau blaenorol.
Nid oedd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn
cynnwys unrhyw argymhellion penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Roedd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn pryderu’n fawr am ei ganfyddiadau a
chytunodd i gynnal ymchwiliad i’r materion y cododd yr adroddiad, gan roi
ystyriaeth benodol i benderfynu pa wersi y gallai Llywodraeth Cymru eu dysgu
o’r bennod.
Penderfyniadau:
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 08/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad