Manylion y penderfyniad

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. Dyma gylch gorchwyl yr adolygiad.

 

 

    • beth yw’r goblygiadau i Gymru os bydd y cyfrifoldeb dros ganiatáu prosiectau seilwaith mawr ar y tir mawr ac ar y môr yn parhau i fod yn fater sy’n cael ei gadw yn ôl gan Lywodraeth y DU?  
    • sut mae hyn effeithio ar gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy, fel y’u nodir yn y Datganiad Polisi Ynni? 
    • sut mae hyn yn effeithio ar gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael gostyngiad o 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn o 2011 ymlaen?
    • beth fydd yr effaith os na fydd penderfyniadau caniatáu ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a datblygiadau cysylltiedig yn cael eu gwneud yn unol â pholisi cynllunio Cymru?

 

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried dwy ddeiseb am ganllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni gwynt ar y tir mawr a’r effaith ar gymunedau lleol a seilwaith.

Penderfyniadau:

4.1 Atebodd y tystion gwestiynau aeldoau’r Pwyllgor am bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

4.2 Cytunodd Dr Wood i ddarparu nodiadau am y nifer o geisiadau a ddaeth i law ar gyfer prosiectau uwchben ac o dan 50MW, wedi’u nodi yn ôl sector. Cytunodd hefyd i ddarparu nodyn am gyfraniad Cyngor Cefn Gwlad Cymru i’r pwyllgor cynllunio a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gynghori ar dreulio anaerobig a throi wastraff yn ynni. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/11/2011

Dyddiad y penderfyniad: 23/11/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/11/2011 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: