Manylion y penderfyniad

Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn dystiolaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl ifanc wedi cynnal ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:

  • yr effaith mae gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi ei chael ar bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed;
  • a yw gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi cael effaith ar nifer y bobl ifanc sy’n dewis aros mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl i addysg orfodol ddod i ben pan fyddant yn troi’n 16 oed;
  • a oes gan bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed ddewis ehangach o gyrsiau academaidd a galwedigaethol o ganlyniad i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009;
  • pa broblemau ymarferol yr ymdriniwyd â hwy er mwyn gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

Penderfyniadau:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2011

Dyddiad y penderfyniad: 23/11/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/11/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: