Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4846 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i:
a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol;
b) ymdrin â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac
c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, yn cynnwys cyflwyno prosiectau cyfalaf er mwyn rhoi hwb i’r sector adeiladu a chreu swyddi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘fethiant’, rhoi ‘presennol, a blaenorol,’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘presennol,’ a rhoi yn ei le
chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu ac i greu
swyddi yn y sector preifat.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
10 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae
wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella
economi Cymru."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn croesawu’r ffaith efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galluogi
ariannu drwy gynyddrannau treth i helpu adfywio economaidd, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion pendant cyn gynted ag sy’n ymarferol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
11 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
pwysigrwydd Ardaloedd Menter i economi Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyhoeddi amserlen ar gyfer eu cyflwyno.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4846 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i:
a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol;
b) ymdrino â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac
c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu a chreu swyddi yn y sector preifat.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella economi Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 09/11/2011
Dyddiad y penderfyniad: 09/11/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad