Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4833 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth:
a) dirywiad sydyn darpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny ar yr adroddiadau ar fywyd cyhoeddus ac ar wleidyddiaeth yng Nghymru; a
b) yr argyfwng cyllido yn y diwydiant darlledu.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) chwilio am atebion i roi sylw i’r bwlch democrataidd a achosir gan hyn; a
b) ymdrechu’n frwd i ddylanwadu ar y Bil Cyrff Cyhoeddus fel bo dyfodol S4C yn cael ei ddiogelu.
Gellir gweld y Bil Cyrff Cyhoeddus drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/publicbodieshl.html
- (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 19/10/2011
Dyddiad y penderfyniad: 19/10/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad