Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.19.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4964 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol;
b) bod awdurdodau lleol yn hanfodol i gynaliadwyedd economïau lleol;
c) ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn gyflogwyr da, cyfrifol; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer da ymysg awdurdodau lleol, gan gynnwys creu partneriaethau, sy’n diwallu anghenion lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/04/2012
Dyddiad y penderfyniad: 25/04/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/04/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad