Manylion y penderfyniad
Dadl: Adroddiad Blynyddol 2010-2011 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:34.
NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a
Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau
llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella
llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio
cwricwlwm yr ysgol.’
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 -
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4
disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o
dan eu gwir oedran.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi
‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella
llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio
cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 -
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod
safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau a oedd yn
weddill o dan yr eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymateb ysgrifenedig i
adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng
Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
13 |
39 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i greu gofyniad cyfreithiol iddi ymateb yn ffurfiol,
yn ysgrifenedig, i adroddiadau blynyddol Estyn yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
13 |
39 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
7.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial
i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
23 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
8.
Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu mai ychydig iawn fydd bandio ysgolion yn ei wneud i fynd i’r afael
â datganiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant sef ‘Hyd yn oed lle mae
ysgol wedi cael ei barnu’n ‘dda’ ar y cyfan, mae ansawdd yr addysgu neu’r
dysgu’n aml yn wael yn rhai o’r gwersi neu’r adrannau unigol'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
9.
Gwelliant 10 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o
awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion
‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
10.
Gwelliant 11 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y ffaith bod yr amserlenni ar gyfer gwella addysg a luniwyd gan
Lywodraeth Cymru yn anghyson.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
39 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
11.
Gwelliant 12 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau dros dro i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei tharged cyffredinol sef bod system ysgolion Cymru ymysg 20 uchaf y byd erbyn 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
39 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
12.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru ar gyfer 2010-11.
Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau llythrennedd
yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella llythrennedd y
disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr
ysgol.’
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4
disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o
dan eu gwir oedran.
Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi
‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant.
Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella
llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio
cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion.
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod
safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru.
Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial
i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.
Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o
awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion
‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 20/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad