Manylion y penderfyniad
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad
i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob
pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer
Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwesitynau 1 - 6 ac 8 – 14. Cafodd cwestiynau 1, 2 a 3 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 1, 2, 3, 5 a 13 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. Cafodd cwestiynau 7 a 15 eu tynnu yn ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad