Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17:05.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4931 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu’r tu allan i’r grant bloc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
20 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl ‘pellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
'yn cynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
12 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4931 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch, i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.
4. Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 07/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad