Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.02.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4926 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol;
2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi methu â chynnal ffydd y cyhoedd a chlinigwyr; a
3. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a
b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl "Dda" a rhoi yn ei le:
"yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol; a"
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4926 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol;
2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol;
3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a
4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a
b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 29/02/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad