Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.11.
NDM4925 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth adroddiadau diweddar am oedi mewn gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cadeiriau olwyn ac yn cydnabod yr effaith negyddol y gall y rhain eu cael ar ansawdd bywyd y rheiny sy’n defnyddio cadeiriau olwyn;
2. Yn croesawu’r ‘ymchwiliad undydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru’ sydd i’w gynnal gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi mwy o flaenoriaeth i fynd i’r afael ag oedi o ran uwchraddio ac atgyweirio, ynghyd â darparu cadair olwyn yn y lle cyntaf, yn enwedig i blant; a
b) darparu diweddariad cynhwysfawr am y cynnydd at wella gwasanaethau cadeiriau olwyn ers Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2010.
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 29/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 29/02/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad