Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am
16.31.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4906 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
45 |
54 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Dileu ‘y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau’ a rhoi yn ei le ‘y bobl hynny sy’n cael cymorth lles’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
13 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig:
‘ac yn credu mai un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r stigma hwn yw drwy helpu pobl yn ôl i waith’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod bod heb waith a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn creu rhwystrau mwy byth i’r rheini sy’n dymuno dianc o fywyd ar fudd-daliadau a chael gwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli yw hwn, na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm wrth leddfu’r sefyllfa.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4906 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
Yn cytuno
y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n
ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli
yw hwn, na
ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm
wrth leddfu’r sefyllfa.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 02/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad