Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Memorandum on the Shark Fins Bill: Consideration of Legal Advice Note
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cyflwynwyd y Bil Esgyll Siarcod (“y Bil”)
yn Nhŷ'r Cyffredin ar 16
Tachwedd 2022.
Mae teitl hir y Bil
yn nodi ei fod yn Fil i wahardd mewnforio ac allforio esgyll siarcod ac i wneud
darpariaeth yn ymwneud â thynnu esgyll o siarcod.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan
Reol Sefydlog 29. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Esgyll Siarcod yn y Cyfarfod
Llawn ar 17 Ionawr 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Tachwedd 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 267KB) ar y Bil gerbron y Senedd
ar 25 November 2022.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 16 Ionawr 2023
(PDF 48.3KB).
Gosododd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF
147KB) ar 10 Ionawr 2023.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
147KB) ar 16 Ionawr 2023.
Penderfyniadau:
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 12/12/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/12/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu