Manylion y penderfyniad
Mental Health support in Higher Education - evidence session 6
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i Gymorth
Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
ysgrifenedig (PDF 3.1MB) ar 29 Mawrth 2023.
Ar 26 Mai cafodd y Pwyllgor ymateb
(PDF 266KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd
Mercher 14 Mehefin 2023. Ar 19 Mehefin 2024, cawsom ddiweddariad
(PDF 171KB) gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar ar ddau o
argymhellion yr adroddiad.
Cefndir yr ymchwiliad
Codwyd mater iechyd meddwl
mewn addysg uwch gan nifer o randdeiliaid fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor i’r
blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd. Roedd hefyd yn fater a ystyriwyd fel
rhan o waith craffu'r Pwyllgor ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a
nododd y Pwyllgor eu bwriad i ailedrych ar y mater. Yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth
2022, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad yn edrych ar effeithiolrwydd y
cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles myfyrwyr; yn ogystal ag effeithiau
parhaus y pandemig a newidiadau i arferion addysgu a dysgu.
Cylch Gorchwyl
>>>>
Maint yr angen
>>>Y sefyllfa bresennol o ran
iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac unrhyw heriau penodol maent yn eu
hwynebu o ran eu hiechyd meddwl a'u gallu i gael cymorth.
>>>A oes heriau gwahanol o ran
iechyd meddwl ar gyfer gwahanol grwpiau o fyfyrwyr, ac a oes unrhyw grwpiau o
fyfyrwyr mewn addysg uwch y mae iechyd meddwl gwael yn effeithio'n anghymesur
arnynt.
>>>Yr effaith, os o gwbl, a gafodd COVID-19 yn gyffredinol ar
iechyd meddwl a lles myfyrwyr ac effaith y pandemig ar y lefelau a'r math o
gymorth a ddarperir gan y sector addysg uwch.
Adnabod a darpariaeth
>>>Pa mor effeithiol yw darparwyr addysg uwch wrth hyrwyddo
ethos o iechyd meddwl, a llesiant da cyffredinol i bob myfyriwr, ac a yw hyn yn
rhan annatod o'r profiad dysgu ac o ryngweithio â staff.
>>>Pa mor effeithiol yw’r sector o ran sicrhau bod myfyrwyr yn
cael eu hadnabod yn gynnar os oes arnynt angen cymorth unigol wedi’i dargedu.
>>>Pa
mor effeithiol y mae'r sector addysg uwch a'r GIG yn gweithio gyda'i gilydd i
roi’r cymorth iechyd meddwl cywir i fyfyrwyr unigol ar yr adeg ac yn y lleoliad
y mae ei angen arnynt.
>>>A
oes problemau penodol o ran mynediad at gymorth iechyd meddwl y GIG, er
enghraifft effaith newid meddygon teulu yn amlach; bod llawer o fyfyrwyr ar
oedran lle maent yn trosglwyddo o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc
i wasanaethau iechyd meddwl oedolion; unrhyw broblemau o ran rhannu data.
>>>Pa
mor effeithiol yw gwaith y sector addysg ôl-16 yn fwy eang i hybu iechyd meddwl
da, yn enwedig o ran pontio.
Polisïau, deddfwriaeth a
chyllid Llywodraeth Cymru
>>>Pa mor effeithiol y mae
trefniadau polisi, ariannu a rheoleiddio Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector yn
cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac a oes mwy y gallai
Llywodraeth Cymru ei wneud.
>>>Yng nghyd-destun y Bil Addysg
Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), sut olwg fyddai ar ddull system gyfan o ymdrin ag
iechyd meddwl a llesiant mewn addysg ôl-16, a beth fyddai rôl darparwyr addysg
uwch a gofal iechyd.
>>>Sut y dylai'r Comisiwn Addysg
Drydyddol ac Ymchwil newydd ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr mewn
addysg uwch, ac yn y sector addysg drydyddol yn fwy eang.
Argymhellion ar gyfer newid
>>>A oes unrhyw
argymhellion y dylai'r Pwyllgor eu gwneud.
<<<
Casglu tystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar ym mis Medi
2022. Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau tystiolaeth unigol ar gael o dan y tab
cyfarfodydd ar frig y dudalen.
Ar ddechrau mis Medi, lansiwyd arolwg wedi’i anelu
at fyfyrwyr a graddedigion diweddar o Gymru i gyflwyno eu barn. Daeth 254 o
ymatebion i law, ac mae crynodeb o’r ymatebion wedi’i gyhoeddi
(PDF 1MB).
Yn nhymor yr hydref, cynhaliwyd grwpiau ffocws i
drafod yr ymchwiliad yn fanwl gyda myfyrwyr. Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu
hwn, cawsom wybod am brofiadau myfyrwyr presennol a diweddar o gymorth lles; y
prif heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu; effaith iechyd meddwl ar eu profiadau
dysgu a phrofiadau addysg uwch; a pha welliannau yr hoffent eu gweld. Cyhoeddwyd
(PDF 258KB) crynodeb o'r trafodaethau.
Ymgynghoriad
Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth
ysgrifenedig ar 12 Gorffennaf 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 07 Tachwedd
2022. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.
Cymorth
Mae’r arolwg hwn yn ymwneud â phwnc
sensitif. Os hoffech gael cymorth ar ôl llenwi’r arolwg, rydym yn argymell y
dylech gysylltu â’r elusennau canlynol:
Childline: 0800 1111
Meic Cymru: 0808 80 23456
Mind Cymru: 0300 123 33 93 neu info@mind.org.uk
Hafal : 01792 816 600/832 400 neu e-bostiwch hafal@hafal.org
Beat Cymru: 0808 801 0433
Llinell Wrando a Chyngor Cymunedol (CALL): 0800 13 27 37 neu tecstiwch ‘help’ i
81066
Samariaid: 116 123
Bydd yr elusennau hyn yn rhoi’r cyfle i chi
siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo.
Penderfyniadau:
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan AMOSSHE.
Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 26/10/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/10/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu