Manylion y penderfyniad

Bil Awtistiaeth (Cymru)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Statws: I'w ystyried

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Bil Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Paul Davies AS. Roedd Paul Davies AS yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol ar 28 Mawrth 2017 a chafodd ganiatâd gan y Cynulliad i fwrw ymlaen â’i Bil ar 14 Mehefin 2017.

 

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi anfon y Bil at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

Gwybodaeth am y Bil

Diben cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) yw sicrhau y caiff anghenion plant ac oedolion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASA) yng Nghymru eu diwallu, a diogelu a hyrwyddo eu hawliau.  Mae'r Bil yn cyflawni'r diben hwn fel a ganlyn:

 

  • Cyflwyno strategaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion yng Nghymru sydd â chyflyrau ASA, a fydd yn:
    • hyrwyddo'r arferion gorau wrth wneud diagnosis o ASA, ac asesu a chynllunio ar gyfer diwallu anghenion gofal; 
    • sicrhau llwybr clir a chyson i wneud diagnosis o ASA mewn ardaloedd lleol;
    • sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau'r GIG yn cymryd y camau angenrheidiol fel bod plant ac oedolion ag ASA yn cael y diagnosis a'r cymorth amserol y mae arnynt eu hangen ar draws amryw wasanaethau;
    • cryfhau'r cymorth i deuluoedd a gofalwyr ac yn sicrhau bod eu dymuniadau, a dymuniadau pobl ag ASA, yn cael eu hystyried; 
    • hyrwyddo ymchwil, arloesedd a gwelliant mewn gwasanaethau ar gyfer ASA;
    • sefydlu arferion i hwyluso'r gwaith o gasglu gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol am nifer y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ASA, a'u hanghenion, fel y gall Gweinidogion Cymru, cyrff lleol a chyrff y GIG gynllunio yn unol â hynny;
    • sicrhau bod staff allweddol sy'n gweithio gyda phobl ag ASA yn cael hyfforddiant priodol mewn ASA;
    • adolygu'r strategaeth a'r canllawiau yn rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd.
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i'r cyrff perthnasol ar weithredu'r strategaeth.
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu data addas i hwyluso gweithrediad y Bil.
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgymryd ag ymgyrch i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylder sbectrwm awtistiaeth.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Cynulliad ar gael yn y Canllaw i gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

.

 

 

Cyfnod Presennol

Bil Gwrthodwyd

Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 16 Ionawr 2019. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil:

13 Gorffennaf 2018

Bil Awtistiaeth (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandum Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd: 13 Gorffennaf 2018

 

Y Pwyllgor Busnes - Amserlen ar gyfer ystyried Bil Awtistiaeth (Cymru)

 

Datganiad Cyfarfod Llawn - Cyflwyno Bil Awtistiaeth (Cymru): 18 Gorffennaf 2018

 

Geirfa Ddwyieithog

 

Datganiad o Fwriad y Polisi – Bil Awtistiaeth (Cymru)

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn trafod ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 19 Gorffennaf 2018

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

 Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

19 Gorffennaf 2018

Ystyried y ffordd o graffu ar gyfnod 1 (Preifat)

(Preifat)

(Preifat)

19 Medi 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar

19 Medi trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 19 Medi

3 Hydref 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar

3 Hydref trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 3 Hydref

11 Hydref 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar

11 Hydref trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 11 Hydref

25 Hydref 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar

25 Hydref trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 25 Hydref

7 Tachwedd 2018

Sesiynau tystiolaeth Iafar

7 Tachwedd trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 7 Tachwedd

Gohebiaeth Weinidogol

 

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 26 Hydref 2018

 

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon – 19 Tachwedd 2018

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar 7 Rhagfyr 2018

 

Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon – 18 Chwefror 2019

 

Bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

24 Medi 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar– Paul Davies AM

TBC

24 Medi 2018 – trawsgrifiad

Gwylio Cyfarfod 24 Medi 2018

15 Hydref 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar– Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

15 Hydref 2018 - trawsgrifiad

Gwylio Cyfarfod 15 Hydref 2018

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried y Bi lar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

11 Hydref 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar– Paul Davies AM

11 Hydref 2018 trawsgrifiad

Gwylio Cyfardod 11 Hydref 2018

7 Tachwedd 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar– Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

7 Tachwedd 2018 trawsgrifiad

Gwylio Cyfardod 7 Tachwedd 2018

 

Llythryr gan Paul Davies AC - Asesiad Effaith Rheoleiddiol – 31 Hydref 2018  (PDF, 51KB)

Llythyr gan Paul Davies AC – 16 Tachwedd 2018 (PDF, 150KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 20 Tachwedd 2018 (PDF, 311KB)

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad, Goblygiadau ariannol y Bil Awtistiaeth (Cymru) (PDF, 280KB) ar 7 Rhagfyr 2018

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog - 7 Rhagfyr 2018 (PDF, 311KB)

Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - 20 Rhagfyr 2018 (PDF, 866KB)

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 16 Ionawr 2019. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14.

 

Gwybodaeth gyswllt

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd  CF99 1NA

 

Ebost: Legislation@Senedd.Wales

 

Penderfyniadau:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Paul Davies AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/09/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Dogfennau Cefnogol: