Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.55
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4887 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;
2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
44 |
56 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio ac ystyried y pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau eraill i egluro os bydd angen.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y camau y mae Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
12 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru am sicrhau bod safonau wedi codi dros y degawd diwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd y system fandio hon, drwy ganolbwyntio ar berfformiad cyffredinol ysgolion, yn methu cydnabod perfformiadau unigol disgyblion ac adrannau yn yr ysgolion hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
39 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer sut gall awdurdodau lleol a chanddynt nifer o ysgolion ym Mandiau 3, 4 a 5 wneud gwelliannau ymarferol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4887 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;
2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio ac ystyried y pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau eraill
i egluro os bydd angen.
5. Yn cydnabod
y camau y mae
Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai
cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd
yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled
Cymru.
6. Yn credu
mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth
ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella
ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru
am sicrhau bod safonau wedi codi dros
y degawd diwethaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
12 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/01/2012
Dyddiad y penderfyniad: 11/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad