Manylion y penderfyniad

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Cyflwynodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog).

 

Cymeradwywyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Medi 2016.

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

NDM6090 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2016

Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd