Manylion y penderfyniad
Consideration of the approach to scrutiny of the draft budget
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd, Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Gosododd Llywodraeth
Cymru ei chyllideb
ddrafft ar gyfer 2017-18 (PDF, 294KB) ar 18 Hydref 2016.
Ym mis Gorffennaf 2016,
cyhoeddodd y Pwyllgor
Cyllid ymgynghoriad
cyhoeddus ar gynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft, a chafodd y canfyddiadau
hyn eu bwydo i sesiynau tystiolaeth ar faterion strategol yn y gyllideb ddrafft
yn ystod tymor yr hydref.
Bu Pwyllgorau
eraill y Cynulliad
yn cynnal sesiynau tystiolaeth ar faterion mwy penodol o fewn y gyllideb
ddrafft, y cawsant eu bwydo i adroddiad y Pwyllgor Cyllid.
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad
ar ei waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18 (PDF, 2MB)
ar 29 Tachwedd 2016. Daeth ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF, 359KB) i adroddiad y Pwyllgor i law ar 9 Ionawr
2017.
Derbyniwyd y gyllideb
ddrafft gan y Cynulliad cyfan yn y Cyfarfod
Llawn ar 6
Rhagfyr 2016. Gosododd Llywodraeth Cymru ei gyllideb
derfynol ar gyfer 2017-18 (PDF, 240KB) ar 20 Rhagfyr, a dderbyniwyd hefyd
gan y Cynulliad cyfan yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Ionawr 2017.
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Cofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Margaret Davies,
Dirprwy Gyfarwyddwr - Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr – Trysorlys, Llywodraeth Cymru |
Darllen trawsgrifiad
o Sesiwn 1 Dystiolaeth |
||
2. Chwarae Teg and
WWF Natasha Davies, Partner
Polisi, Chwarae Teg Anne Meikle, Pennaeth
WWF Cymru Toby Roxburgh,
Arbenigwr Economeg Gymhwysol, WWF UK |
Darllen trawsgrifiad
o Sesiwn 2 Dystiolaeth |
||
3. GIG Vanessa Young,
Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru Gary Doherty, Prif
Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (yn cynrychioli pob un o
Brif Weithredwyr GIG Cymru) Eifion Williams,
Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (yn
cynrychioli Cyfarwyddwyr Cyllid GIG Cymru) Steve Webster,
Cyfarwyddwr Cyllid / Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Cwm Taf |
Darllen trawsgrifiad
o Sesiwn 3 Dystiolaeth |
||
4. CLILC Mari Thomas, Swyddog
Polisi Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Jon Rae, Cyfarwyddwr
Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd Huw
David (Dirprwy Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr),
Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Y Cynghorydd Anthony
Hunt (Dirprwy Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen), Dirprwy Lefarydd
CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau |
Darllen trawsgrifiad
o Sesiwn 4 Dystiolaeth |
||
5. David Robinson OBE,
Uwch-gynghorydd, Community Links Yr Athro Ceri Phillips,
Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Abertawe Yr Athro Marcus
Longley, Cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Athro Polisi
Iechyd Cymhwysol, Prifysgol De Cymru Anita Charlesworth,
Cyfarwyddwr Ymchwil ac Economeg, y Sefydliad Iechyd |
Darllen trawsgrifiad
o Sesiwn 5 Dystiolaeth |
||
6. Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Margaret Davies,
Dirprwy Gyfarwyddwr - Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr - Trysorlys, Llywodraeth Cymru |
Darllen trawsgrifiad
o Sesiwn 6 Dystiolaeth |
Penderfyniadau:
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2017-18.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar
gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu'r Pwyllgor, a gynhelir yn
ystod toriad yr haf.
Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2016
Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd