Manylion y penderfyniad

Debate on European Programmes

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.00

NDM4882 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cyfraniad cadarnhaol y mae Rhaglenni Ewropeaidd cyfredol a blaenorol yn ei wneud ac wedi’i wneud;

2. Yn croesawu’r rôl hanfodol y mae arian Ewropeaidd, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Cronfeydd Strwythurol, yn ei chwarae o ran cefnogi economi Cymru;

3. Yn cydnabod bod chwarae rhan lawn a rhagweithiol o fewn yr UE yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar wahân i’r rheini sy’n deillio o’r Rhaglenni Ewropeaidd;

4. Yn nodi â phryder benderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod trafodaethau’r UE ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011ac yn annog Llywodraeth y DU i weithio mewn ffordd adeiladol gydag Aelod-wladwriaethau eraill i sicrhau bod y DU yn mynd ati unwaith eto i chwarae rôl ganolog yn yr UE er mwyn hybu buddiannau ehangach Cymru a rhannau eraill y DU wrth lunio polisi a gweinyddu Rhaglenni Ewropeaidd, yn ogystal ag wrth ddatblygu ymhellach bolisïau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Ewropeaidd.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod un Llywodraeth Cymru ar ôl y llall wedi methu â manteisio i’r eithaf ar botensial rhaglenni’r UE a bod rhannau o Gymru’n dal i fod ymysg y tlotaf yn yr Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

40

56

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 -  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r cyfraniad pwysig a wnaethpwyd gan Raglenni Ewropeaidd ac yn cydnabod ymhellach bwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i’n heconomi, gyda 39.9 y cant o allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 1 ar ôl ‘wedi’i wneud’ rhoi ‘ond hefyd yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r rhaglenni hynny’n effeithiol i wella ffyniant economaidd cymharol Cymru’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

30

56

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 -  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddiannau cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â’r trafodaethau ar raglenni Ewropeaidd a pholisi Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod y trafodaethau ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011 ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithredu er budd gorau pobl Cymru a Phrydain yn nhrafodaethau cyllido’r UE.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

45

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 4 dileu ‘yn mynd ati unwaith eto i chwarae’ a rhoi ‘yn chwarae’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Llywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol er mwyn gweithio er budd cenedlaethol Cymru ac i fanteisio i’r eithaf ar fuddiannau rhaglenni’r UE i Gymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4882 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cyfraniad pwysig a wnaethpwyd gan Raglenni Ewropeaidd ac yn cydnabod ymhellach bwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i’n heconomi, gyda 39.9 y cant o allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE;

2. Yn croesawu’r rôl hanfodol y mae arian Ewropeaidd, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Cronfeydd Strwythurol, yn ei chwarae o ran cefnogi economi Cymru;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddiannau cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â’r trafodaethau ar raglenni Ewropeaidd a pholisi Ewropeaidd;

4. Yn cydnabod bod chwarae rhan lawn a rhagweithiol o fewn yr UE yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar wahân i’r rheini sy’n deillio o’r Rhaglenni Ewropeaidd;

5. Yn nodi â phryder benderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod trafodaethau’r UE ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011ac yn annog Llywodraeth y DU i weithio mewn ffordd adeiladol gydag Aelod-wladwriaethau eraill i sicrhau bod y DU yn mynd ati unwaith eto i chwarae rôl ganolog yn yr UE er mwyn hybu buddiannau ehangach Cymru a rhannau eraill y DU wrth lunio polisi a gweinyddu Rhaglenni Ewropeaidd, yn ogystal ag wrth ddatblygu ymhellach bolisïau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Ewropeaidd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol er mwyn gweithio er budd cenedlaethol Cymru ac i fanteisio i’r eithaf ar fuddiannau rhaglenni’r UE i Gymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

11

56


Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/01/2012

Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad